Dringfa Beic edco

Dydd Sadwrn 27ain o Fai 12yp

4474.jpg

Dydd Sadwrn 27 Mai – 2yp pentref Llanbadarn, Aberystwyth

Roedd hwn yn ddigwyddiad rhyfeddol o lwyddiannus pan gafodd ei gynnal am y tro cyntaf y llynedd, ac felly mae’n dychwelyd ar gyfer 2017! Dyma gyfle i unrhyw un sydd awydd herio seiclwyr proffesiynol gorau’r Pearl Izumi Tour Series ar ddringfa enwog Cefn Llan, sy’n 25%. 

Bydd y seiclwyr yn cychwyn mewn parau, a phob enillydd yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf, gyda digwyddiadau  repechage ar gyfer y collwyr a chategorïau ar gyfer ieuenctid, seiclwyr feteran a merched hefyd.

Mae’r brif wobr yn £500, ond bydd angen i’r enillydd fod yn ffrwydrol o bwerus er mwyn llwyddo.

Mae dringfa Cefn Llan yn artaith 200 metr o hyd, ar lethr 25%, a dyma heb os y ddringfa fwyaf serth yn yr ardal. Bydd y seiclwyr yn cychwyn yn y gyffordd â Rhiw Briallu ar waelod Cefn Llan, ac yn seiclo rhan fwyaf serth y rhiw hyd at y llinell derfyn, islaw mynedfa Parc Gwyddoniaeth Aberystwyth.

Cofrestru'r ras 2017 yma : https://www.britishcycling.org.uk/events/details/154721/EDCO-Hill-Climb-Knockout-Cup

Mae arbenigwyr ar ddringo rhiwiau yn enwog am arbed pwysau ar eu peiriannau – mae pob gram yn cyfrif. Dyna pam mae EDCO wedi datblygu eu cyfres olwynion Supersport sy’n cyfuno eu hymylon carbon gwead caerog 9k/8mm, sbôcs carbon a’u bothau Victory o’r Swistir. Dim ond 950g y pâr y mae’r model Neggia (tiwbaidd) yn ei bwyso! Ewch i’w gweld ar www.edco-wheels.co.uk

yn gweithio mewn partneriaeth â:
Ceredigion County Council Discover Ceredigion Cambrian Tyres Ystwyth Cycling Club Aberystwyth University
cefnogir gan:
Aberystwyth Town Council Welsh Government Ceredigion_Actif 5x60 Starbucks
Llanllyr Abba Loos Huw Fairclough Secret Training